Amodau Dan Draed
Amser: Ar y copa tua 1400
Eira uwchben: dim eira ar y llwybrau
Llwybr a gymerwyd: llwybr y PyG
Adroddiad nesaf: Dydd Gwener 28-3-2025
Amodau
Ni welwyd unrhyw eira na rhew ar y mynydd heddiw.
Diwrnod cymylog, yn codi ar adegau ar y copa yn fuan yn y prynhawn, ac yn codi yn brafiach yn ystod y prynhawn, gydag awel gymedrol.
Offer hanfodol
Offer cerdded addas tymhorol, yn cynnwys goleuadau (fel lamp pen neu ddwy).
Gall cario pigau bach i'r traed gynnig dewisiadau i gadw'n ddiogel rhag dod ar draws amodau rhewllyd ar y mynydd (gweler Gwybodaeth Ychwanegol isod).
Gwybodaeth Ychwanegol
Ar ddydd Mawrth yr adroddiad mae'r rhagolygon yn awgrymu y bydd y tymheredd ar y copa uwchben y rhewbwynt am y rhan fwyaf o'r cyfnod hyd nes yr adroddiad nesaf dydd Gwener. Mae darogan y bydd y tymheredd ar y copa cyn ised â -1˚C, gan deimlo cyn ised â -10˚C ar adegau.
Mae'r rhagolygon yn awgrymu na fydd unrhyw eira yn y dyddiau i ddod, ond gyda tymheredd isel dros nos heno (nos Fawrth) ac i mewn i fore Mercher mae rhywfaint o bosibilrwydd o rew neu farrug am gyfnod, gyda'r posibilrwydd o arwynebau llithrig fore Mercher a'r posibilrwydd yma yn cilio yn hwyrach yn yr wythnos.





